Alvin Langdon Coburn
Alvin Langdon Coburn | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mehefin 1882 Boston |
Bu farw | 23 Tachwedd 1966 Llandrillo-yn-Rhos |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | ffotograffydd |
Bu Alvin Langdon Coburn (11 Mehefin 1882 - 23 Tachwedd 1966) yn arloeswr ffotograffiaeth gynnar a rhoddodd y gorau i'w yrfa fel un o ffotograffwyr enwocaf ei gyfnod er mwyn symud i fyw yn Harlech ac wedyn Llandrillo-yn-Rhos i ganolbwyntio ar fod yn Saer Rhydd.
Arbrofodd a thorrodd tir newydd gyda sawl techneg ac arddull. Cysylltir yn amlaf gyda Symbolism, Pictorialism a chreu delweddau Vortographs a oedd wedi'u dylanwadu gan y grŵp celfyddydol Seisnig y Vorticists.
Ganwyd yn ninas Boston, Massachusetts, Unol Daleithiau i deulu cyfoethog. Symudodd i Lundain cyn rhoi'r gorau i'w yrfa ffotograffig a symud eto i fyw yng Nghymru. Derbyniodd wahoddiad i ymuno â Gorsedd y Beirdd ym 1927.[1]
Bywyd Cynnar a Ffotograffiaeth
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Langdon Coburn dynnu lluniau yn wyth oed pan gafodd gamera Kodak 4x5 yn anrheg. Amlygodd ei ddalent am ffotograffiaeth bron yn syth a dangoswyd ei waith gyda llawr o elît byd y camera.
Yn 16 oed cyfarfu â'r ffotograffydd rhyngwladol enwog F. Holland Day a fu'n gymorth mawr iddo gael i waith mewn arddangosfa'r Royal Photograhic Society yn Llundain.
Fel canlyniad i'w luniau cael eu gweld yn Llundain fe wahoddwyd i ymuno'r grŵp ffotograffig y Linked Ring gan Fredrick H, Evans. Hefyd cyhoeddwyd Alfred Stieglitz ei luniau yng nghylchgrawn 'Camera'. Y ddau yn enwau mawr ffotograffiaeth y cyfnod a'i gynorthwyodd i ddysgu ac arddangos.
Teithiodd yn helaeth rhwng Ewrop a'r Unol Daleithiau o 1899 a 1912. Tynnodd luniau tirweddau a dinasoedd, yn enwedig yn Llundain ond roedd yn fwyaf adnabyddus am gyfres o bortreadau enwogion. Ymhlith yr enwau mawrion a dynnoedd eu lluniau mae awduron ac artistiaid fel Henri Matisse, George Bernard Shaw, Auguste Rodin, Mark Twain, Theodore Roosevelt, W.B. Yeats a H.G. Wells.
Ar ddechrau'r 20g bu ffotograffiaeth yn dal yn ddyfodiad cymharol newydd gyda byd celf y cyfnod yn araf i'w hystyried a'i harddangos ochr ac ochr a pheintio a cherfluniaeth. Roedd gwaith tirwedd Pictorialist Langdon Coburn yn gyfraniad sylweddol wrth ddatblygu a chydnabod ffotograffiaeth yn gelfyddyd yn hytrach na dim ond yn 'gynnyrch peiriant'. Ystyrir Langdon Coburn a Stieglitz yn sylfaenwyr Pictorialism.
Arbrofodd hefyd gydag Autochrome Lumière a fu'n broses ffotograffiaeth liw arloesol.
Yn 1912 fe briododd â Edith Wightman Clement yn Boston a symudodd y cwpl i Loegr gan beidio byth â dychwelyd i'r Unol Daleithiau.
Yn Llundain, (yn rhannol o dan ddylanwad ei gyfaill y bardd Ezra Pound) fe gydweithiodd gyda grŵp avant-garde newydd y Vorticists. Yn ystod y cyfnod hwn, fe newidiodd i ffotograffiaeth haniaethol (abstract), a'u alwodd yn vortographs. Defnyddiwyd drychau a gwydrau dros lens y camera i greu patrymau rhanedig yn debyg i waith peintwyr Ciwbaidd a Dyfodolwyr (Futurists) y cyfnod. Ystyrir ei vortographs yn arloesol wrth torri tir newydd yn natblygiad ffotograffiaeth gynnar.[2]
Symud i Gymru a'r Seiri Rhyddion
[golygu | golygu cod]Collodd Langdon Coburn ei ddiddordeb yn ffotograffiaeth am obsesiwn gyda mysticism, hud a lledrith, derwyddon ac yn dod yn aelod brwd o'r Seiri Rhyddion. Fel llawer o artistiaid a llenorion y cyfnod bu'n aelod o'r 'Theosophical Society' mudiad a ymddiddorodd yn hud a mysticism.
Dechreuodd gysylltiad Langdon Coburn gyda Chymru ym 1916 pan ymwelodd â Harlech ar wahoddiad George Davison (1854-1930), pennaeth Kodak yng ngwledydd Prydain. (Trowyd 'Wern Fawr', tŷ George Davison i fod yn Goleg Harlech blynyddoedd wedyn).[3] Dwy flynedd yn ddiweddarach fe brynodd Langdon Coburn darn o dir yn Harlech ac adeiladodd tŷ haf a alwodd yn 'Cae Besi'.
Wrth iddo golli pob diddordeb yn ffotograffiaeth dywedir iddo daflu dros 15,000 o blatiau gwydr a negatifau ffotograffig a wedyn symud i fyw yn barhaol Harlech.
Fel aelod selog o'r Seiri Rhyddion ddaeth yn Inspector General, Thirty-third Degree, for North Wales of The Ancient and Accepted Rite a hefyd yn Provincial Grand Master of the Mark Degree for North Wales. Hefyd ymchwiliodd mewn i hanes, seremonïau a symbolau'r Seiri Rhyddion gan deithio trwy Gymru a Lloegr i ymweld â nifer fawr o 'Lodges'.
Gwahoddwyd i ymuno â Gorsedd y Beirdd ym 1927, yn derbyn y wisg werdd yn Eisteddfod Lerpwl.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd symudodd i fyw yn Llandrillo-yn-Rhos ger Fae Colwyn ble bu'n byw tan ddiwedd ei oes ym 1966 yn Awen, Ebberstone Road East. Fe'i gladdwyd gerllaw yn Eglws Llandrillo.[4] [5][6]
Lluniau adnabyddus
[golygu | golygu cod]-
Spiderwebs
Photogravuere a gyhoeddwyd yn Camera Work, 1908 -
The Octopus, Efrog Newydd
Portreadau enwogion
[golygu | golygu cod]-
George Bernard Shaw, 1908
-
Auguste Rodin, 1908
-
William Butler Yeats, 1908
-
Theodore Roosevelt, 1907
-
Joseph Conrad, 1916
-
Alvin Langdon Coburn, hunanbortread, 1922
Llundain 1920au
[golygu | golygu cod]-
Westminster Abbey
-
Regent's Canal
-
Hyde Park Corner
-
The Tower Bridge
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Alvin Langdon Coburn, Alvin Langdon Coburn, Photographer, An Autobiography, Dover Publications, 1978, ISBN 0-486-23685-4
Dolenni
[golygu | golygu cod]- Mae'r llyfr Eneidiau gan Aled Jones Williams 2013, yn cynnwys cymeriad sy'n fyfyrwraig ifanc o Lerpwl ar drywydd hanes Alvin Langdon Coburn.
- Lleoliad Bedd Alvin Langdon Coburn
- YouTube, The Art of Photography
- Alvin Langdon Coburn ar Photogravure.com[dolen farw]
- Gwefan y National Media Museum Archifwyd 2011-01-07 yn y Peiriant Wayback
- National Portrait Gallery - Coburn Archifwyd 2007-11-17 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mike Weaver: Alvin Langdon Coburn, Symbolist Photographer NY, 1986, s. 6,20
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2015-01-23.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-04. Cyrchwyd 2015-01-26.
- ↑ http://babylonwales.blogspot.co.uk/2010/09/alvin-langdon-coburn-in-north-wales.html
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2015-01-23.
- ↑ http://historypoints.org/index.php?page=graves-at-llandrillo-yn-rhos-churchyard